Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 24 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
offerynnau statudol Cymru
2015 Rhif. (Cy. )
PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, Cymru
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) (“Deddf 2013”), bydd aelodau cyfredol penodol o gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â chynlluniau pensiwn newydd (“cynlluniau newydd”) fel aelodau actif, tra’n cadw buddion penodol yn eu cynlluniau pensiwn presennol (“hen gynlluniau”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phensiynau gwasanaethau cyhoeddus i ddiffoddwyr tân yng Nghymru sy’n ganlyniad i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 2013 ac i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (y dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â hwy).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn addasu effaith darpariaethau sy’n ymwneud â dewisiadau i gontractio allan o’r pensiwn gwladol ychwanegol o dan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (p. 48) (“Deddf 1993”), ar gyfer aelodau a fydd yn ymuno â chynllun newydd, neu’n trosglwyddo i gynllun newydd yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2015 i 5 Ebrill 2016 yn gynwysedig. Datgymhwysir rhai o’r gofynion gweithdrefnol penodol yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996 (O.S. 1996/1172) ynglŷn â dewisiad i gontractio allan y cynllun newydd.
Mae Rhan 3 yn addasu effaith darpariaethau eraill yn Neddf 1993 yn y modd y’u cymhwysir i bersonau penodol sy’n ymuno â’r cynllun newydd tra’n aros yn aelodau anghronnol o’r hen gynllun. Caiff yr aelodau hynny eu trin fel pe baent mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau o dan un o’r cynlluniau yn hytrach na’r ddau. Addesir adran 15A o Ddeddf 1993 mewn perthynas â debydau pensiwn. Mae Rhan 4 o Ddeddf 1993 yn ymwneud ag aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol sy’n gadael cyn cyrraedd oedran ymddeol. Mae aelodau anghronnol o’r hen gynllun i’w trin fel pe na bai eu gwasanaeth o dan yr hen gynllun yn terfynu, ac fel pe na bai eu cyflogaeth a gontractiwyd allan yn dod i ben, wrth iddynt ymuno â’r cynllun newydd, ond yn hytrach wrth iddynt adael y cynllun newydd. Mae’r addasiadau yn gymwys at ddibenion y buddion a gedwir (Pennod 1 o Ran 4); ailbrisio buddion (Pennod 2); diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (Pennod 3); a chyfwerthoedd ariannol (Penodau 4). Addesir hefyd rai darpariaethau penodedig yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 1996 (O.S. 1996/1847), a wnaed o dan Bennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993.
Mae Rhan 4 yn addasu effaith y gyfundrefn drethu pensiynau a gynhwysir yn Neddf Cyllid 2004 (p. 12), ar y ddarpariaeth o bensiynau afiechyd yn y cynllun newydd. Mae'n darparu na fydd unrhyw elfen o bensiwn afiechyd sy'n ymwneud â gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun yn cael ei chyfrif yn erbyn lwfans treth blynyddol yr aelod, ac na chaiff unrhyw bensiwn yn yr hen gynllun a ddaw’n daladwy yn ddiweddarach i aelod sydd wedi ymddeol oherwydd afiechyd, ei gyfrif yn erbyn lwfans treth oes yr aelod.
Mae Rhan 5 yn datrys tyndra rhwng y darpariaethau budd gwasanaeth byr a gynhwysir yn Neddf 1993 a’r gofyniad yn adran 10 o Ddeddf 2013, bod oedran pensiwn aelod gohiriedig o’r cynllun newydd (sef yr oedran pensiwn gwladol) yn wahanol i oedran pensiwn aelod actif (sef 60).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 24 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru
2015 Rhif. (Cy. )
PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, Cymru
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
Gwnaed ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f), 2(1) a 3(1), (2), (3)(a) a (4) o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013([1]), a pharagraff 6(b) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny yr oedd yn ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y byddai’r Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Yn unol ag adran 24(1) a (3) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1
Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a dod i ben
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn
y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol)
2015.
(2) Ac eithrio rheoliad 10, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.
(3) Daw rheoliad 10 i rym ar yr un diwrnod â pharagraff 38 o Atodlen 13 i Ddeddf Pensiynau 2014([2]), ac ar y diwrnod hwnnw bydd rheoliad 9 yn peidio â chael effaith.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y cynllun newydd” (“the new scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015([3]);
ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993([4]);
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013([5]); ac
ystyr “hen gynllun” (“old scheme”) yw’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992([6]) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru neu’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([7]).
RHAN 2
Addasu darpariaethau contractio allan
Cymhwyso’r Rhan hon
3. Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a) pan wneir dewisiad o dan adran 11 (dewisiadau ynghylch cyflogaethau sydd wedi eu cynnwys o dan dystysgrifau contractio allan) o Ddeddf 1993([8]) mewn perthynas â phersonau sy’n dod yn aelodau o’r cynllun newydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 a chyn 6 Ebrill 2016 (pa un ai bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny yn aelodau o hen gynllun ai peidio); a
(b) pan fo’r cynllun newydd yn bodloni gofynion adran 9 (gofynion o ran ardystio cynlluniau: cyffredinol) o Ddeddf 1993([9]).
Contractio allan
4.—(1)(1) Mae Rhan 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol
(Contractio Allan) 1996([10]) (ardystio cyflogaethau) wedi ei haddasu
fel a ganlyn o ran y modd y’i cymhwysir i’r cynllun
newydd.
(2) Nid yw’r gofynion yn rheoliad 2(1)(a) (gwneud dewisiadau ar gyfer dyroddi tystysgrifau contractio allan) a rheoliadau 3 (hysbysiadau gan gyflogwyr o fwriad i wneud dewisiad) i 5 (amser ar gyfer gwneud dewisiad) yn gymwys.
(3) Yn rheoliad 6 (gwybodaeth sydd i’w chynnwys mewn dewisiad)—
(a) mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-baragraffau (a) i (f)—
(a) the name by which the new scheme is to be known;
(b) the name by which the old schemes are known; and
(c) any other information necessary to enable the Commissioners for Her Majesty’s Revenue and Customs to identify the old schemes.; a
(b) nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys.
RHAN 3
Addasu darpariaethau ymadawr cynnar a darpariaethau eraill
Cymhwyso’r Rhan hon
5. Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo person (P)—
(a) yn aelod o hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth tybiedig cynllun trosglwyddo o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
(b) y